1 Diolchwch i'r ARGLWYDD!Mae e mor dda aton ni!Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!
2 Gadewch i Israel gyfan ddweud,“Mae ei haelioni yn ddiddiwedd.”
3 Gadewch i'r offeiriaid ddweud,“Mae ei haelioni yn ddiddiwedd.”
4 Gadewch i bawb arall sy'n addoli'r ARGLWYDD ddweud,“Mae ei haelioni yn ddiddiwedd.”
5 Ro'n i mewn helbul, a dyma fi'n galw ar yr ARGLWYDD.Dyma'r ARGLWYDD yn ateb ac yn fy helpu i ddianc.