21 Diolch i ti am ateb fy ngweddi,ac am fy achub i.
22 Mae'r garreg wrthododd yr adeiladwyrwedi cael ei gwneud yn garreg sylfaen.
23 Yr ARGLWYDD wnaeth hyn,mae'r peth yn rhyfeddol yn ein golwg!
24 Mae heddiw'n ddiwrnod i'r ARGLWYDD –gadewch i ni ddathlu a bod yn llawen!
25 O ARGLWYDD, plîs achub ni!O ARGLWYDD, gwna i ni lwyddo!
26 Mae'r un sy'n dod i gynrychioli'r ARGLWYDDwedi ei fendithio'n fawr –Bendith arnoch chi i gyd o deml yr ARGLWYDD!
27 Yr ARGLWYDD ydy'r Duw go iawn,ac mae wedi rhoi ei olau i ni.Gadewch i ni ddathlu!Ewch at yr allor gyda changhennau coed palmwydd.