3 Gadewch i'r offeiriaid ddweud,“Mae ei haelioni yn ddiddiwedd.”
4 Gadewch i bawb arall sy'n addoli'r ARGLWYDD ddweud,“Mae ei haelioni yn ddiddiwedd.”
5 Ro'n i mewn helbul, a dyma fi'n galw ar yr ARGLWYDD.Dyma'r ARGLWYDD yn ateb ac yn fy helpu i ddianc.
6 Mae'r ARGLWYDD ar fy ochr,felly fydd gen i ddim ofn.Beth all pobl ei wneud i mi?
7 Mae'r ARGLWYDD ar fy ochr i'm helpu,felly bydda i'n gweld fy ngelynion yn syrthio.
8 Mae'n llawer gwell troi at yr ARGLWYDD am lochesna trystio pobl feidrol!
9 Mae'n llawer gwell troi at yr ARGLWYDD am lochesna trystio'r arweinwyr.