7 Mae'r ARGLWYDD ar fy ochr i'm helpu,felly bydda i'n gweld fy ngelynion yn syrthio.
8 Mae'n llawer gwell troi at yr ARGLWYDD am lochesna trystio pobl feidrol!
9 Mae'n llawer gwell troi at yr ARGLWYDD am lochesna trystio'r arweinwyr.
10 Roedd y paganiaid yn ymosod arna i;ond dyma'r ARGLWYDD yn fy helpu i'w gyrru nhw i ffwrdd.
11 Roedden nhw'n ymosod arna i o bob cyfeiriad;ond dyma'r ARGLWYDD yn fy helpu i'w gyrru nhw i ffwrdd.
12 Roedden nhw o'm cwmpas i fel haid o wenyn;ond dyma nhw'n diflannu mor sydyn â drain yn llosgi.Dyma'r ARGLWYDD yn fy helpu i'w gyrru i ffwrdd.
13 Roedden nhw'n gwasgu arna i'n galed,a bu bron i mi syrthio;ond dyma'r ARGLWYDD yn fy helpu.