100 Dw i wedi dod i ddeall yn well na'r rhai mewn oed,am fy mod i'n cadw dy ofynion di.
101 Dw i wedi cadw draw o bob llwybr drwger mwyn gwneud beth rwyt ti'n ddweud.
102 Dw i ddim wedi troi cefn ar dy reolau di,am mai ti dy hun sydd wedi fy nysgu i.
103 Mae'r pethau rwyt ti'n eu dweud mor dda,maen nhw'n felys fel mêl.
104 Dy orchmynion di sy'n rhoi deall i mi;ac felly dw i'n casáu pob ffordd ffals.
105 Mae dy eiriau di yn lamp i'm traed,ac yn goleuo fy llwybr.
106 Dw i wedi addo ar lwy bydda i'n derbyn dy ddedfryd gyfiawn.