102 Dw i ddim wedi troi cefn ar dy reolau di,am mai ti dy hun sydd wedi fy nysgu i.
103 Mae'r pethau rwyt ti'n eu dweud mor dda,maen nhw'n felys fel mêl.
104 Dy orchmynion di sy'n rhoi deall i mi;ac felly dw i'n casáu pob ffordd ffals.
105 Mae dy eiriau di yn lamp i'm traed,ac yn goleuo fy llwybr.
106 Dw i wedi addo ar lwy bydda i'n derbyn dy ddedfryd gyfiawn.
107 Dw i'n dioddef yn ofnadwy;O ARGLWYDD, adfywia fi, fel rwyt wedi addo!
108 O ARGLWYDD, derbyn fy offrwm o fawl,a dysga dy ddeddfau i mi.