104 Dy orchmynion di sy'n rhoi deall i mi;ac felly dw i'n casáu pob ffordd ffals.
105 Mae dy eiriau di yn lamp i'm traed,ac yn goleuo fy llwybr.
106 Dw i wedi addo ar lwy bydda i'n derbyn dy ddedfryd gyfiawn.
107 Dw i'n dioddef yn ofnadwy;O ARGLWYDD, adfywia fi, fel rwyt wedi addo!
108 O ARGLWYDD, derbyn fy offrwm o fawl,a dysga dy ddeddfau i mi.
109 Er bod fy mywyd mewn perygl drwy'r adeg,dw i ddim wedi diystyru dy ddysgeidiaeth di.
110 Mae pobl ddrwg wedi gosod trap i mi,ond dw i ddim wedi crwydro oddi wrth dy ofynion.