111 Mae dy ddeddfau di wedi cael eu rhoi i mi am byth;maen nhw'n bleser pur i mi!
112 Dw i'n benderfynol o ddilyn dy ddeddfau:mae'r wobr yn para am byth.
113 Dw i'n casáu pobl ddauwynebog;ond dw i wrth fy modd hefo dy ddysgeidiaeth di.
114 Ti ydy'r lle saff i mi guddio! Ti ydy'r darian sy'n fy amddiffyn!Dy eiriau di sy'n rhoi gobaith i mi!
115 Ewch i ffwrdd, chi sy'n gwneud drwg!Dw i'n bwriadu cadw gorchmynion fy Nuw.
116 Cynnal fi, fel rwyt wedi addo, i mi gael byw;paid gadael i mi gael fy siomi.
117 Cynnal fi a chadw fi'n saff,a bydda i'n myfyrio ar dy ddeddfau di bob amser.