114 Ti ydy'r lle saff i mi guddio! Ti ydy'r darian sy'n fy amddiffyn!Dy eiriau di sy'n rhoi gobaith i mi!
115 Ewch i ffwrdd, chi sy'n gwneud drwg!Dw i'n bwriadu cadw gorchmynion fy Nuw.
116 Cynnal fi, fel rwyt wedi addo, i mi gael byw;paid gadael i mi gael fy siomi.
117 Cynnal fi a chadw fi'n saff,a bydda i'n myfyrio ar dy ddeddfau di bob amser.
118 Ti'n gwrthod y rhai sy'n crwydro oddi wrth dy ddeddfau –pobl ffals a thwyllodrus ydyn nhw.
119 Ti'n taflu pobl ddrwg y byd i ffwrdd fel sothach!Felly dw i wrth fy modd hefo dy ddeddfau di.
120 Mae meddwl amdanat ti yn codi croen gŵydd arna i;mae dy reolau di yn ddigon i godi ofn arna i.