119 Ti'n taflu pobl ddrwg y byd i ffwrdd fel sothach!Felly dw i wrth fy modd hefo dy ddeddfau di.
120 Mae meddwl amdanat ti yn codi croen gŵydd arna i;mae dy reolau di yn ddigon i godi ofn arna i.
121 Dw i wedi gwneud beth sy'n iawn ac yn dda;paid gadael fi yn nwylo'r rhai sydd am wneud drwg i mi.
122 Plîs addo y byddi'n cadw dy was yn saff.Stopia'r bobl falch yma rhag fy ngormesu.
123 Mae fy llygaid wedi blino disgwyl i ti fy achub i,ac i dy addewid sicr ddod yn wir.
124 Dangos dy haelioni rhyfeddol at dy was;dysga dy ddeddfau i mi.
125 Dy was di ydw i. Helpa fi i ddealla gwybod yn union beth rwyt ti'n ei orchymyn.