122 Plîs addo y byddi'n cadw dy was yn saff.Stopia'r bobl falch yma rhag fy ngormesu.
123 Mae fy llygaid wedi blino disgwyl i ti fy achub i,ac i dy addewid sicr ddod yn wir.
124 Dangos dy haelioni rhyfeddol at dy was;dysga dy ddeddfau i mi.
125 Dy was di ydw i. Helpa fi i ddealla gwybod yn union beth rwyt ti'n ei orchymyn.
126 Mae'n bryd i ti weithredu, ARGLWYDD!Mae'r bobl yma yn torri dy reolau.
127 Dw i'n meddwl y byd o dy orchmynion di;mwy nag aur, yr aur mwyaf coeth.
128 Dw i'n dilyn dy ofynion di yn fanwl;dw i'n casáu pob ffordd ffals.