125 Dy was di ydw i. Helpa fi i ddealla gwybod yn union beth rwyt ti'n ei orchymyn.
126 Mae'n bryd i ti weithredu, ARGLWYDD!Mae'r bobl yma yn torri dy reolau.
127 Dw i'n meddwl y byd o dy orchmynion di;mwy nag aur, yr aur mwyaf coeth.
128 Dw i'n dilyn dy ofynion di yn fanwl;dw i'n casáu pob ffordd ffals.
129 Mae dy ddeddfau di yn rhyfeddol,a dyna pam dw i'n eu cadw nhw.
130 Mae dy eiriau di yn goleuo materion,ac yn rhoi deall i bobl gyffredin.
131 Dw i'n dyheu, dw i'n disgwyl yn geg agoredac yn ysu am dy orchmynion di.