136 Mae'r dagrau yn llifo fel afon gen iam fod pobl ddim yn ufudd i dy ddysgeidiaeth di.
137 Rwyt ti yn gyfiawn, O ARGLWYDD;ac mae dy reolau di yn gwbl deg.
138 Mae'r deddfau rwyt ti wedi eu rhoi yn gyfiawn;ac yn gwbl ddibynadwy.
139 Dw i'n gwylltio'n lânwrth weld fy ngelynion yn diystyru beth rwyt ti'n ddweud.
140 Mae dy eiriau di wedi eu profi'n wir,ac mae dy was wrth ei fodd gyda nhw.
141 Er fy mod i'n cael fy mychanu a'm dirmygu,dw i ddim wedi diystyru dy orchmynion di.
142 Mae dy gyfiawnder di yn para am byth;Mae dy ddysgeidiaeth di yn wir.