14 Mae byw fel rwyt ti'n dweudyn rhoi mwy o lawenydd na'r cyfoeth mwya.
15 Dw i am fyfyrio ar dy ofynion,a chadw fy llygaid ar dy ffyrdd.
16 Mae dy ddeddfau di yn rhoi'r pleser mwya i mi!Dw i ddim am anghofio beth rwyt ti'n ddweud.
17 Helpa dy was!Cadw fi'n fyw i mi allu gwneud beth rwyt ti'n ddweud.
18 Agor fy llygaid, i mi allu deally pethau rhyfeddol rwyt ti'n eu dysgu.
19 Dw i ddim ond ar y ddaear yma dros dro.Paid cuddio dy orchmynion oddi wrtho i.
20 Dw i'n ysu am gael gwybodbeth ydy dy ddyfarniad di.