140 Mae dy eiriau di wedi eu profi'n wir,ac mae dy was wrth ei fodd gyda nhw.
141 Er fy mod i'n cael fy mychanu a'm dirmygu,dw i ddim wedi diystyru dy orchmynion di.
142 Mae dy gyfiawnder di yn para am byth;Mae dy ddysgeidiaeth di yn wir.
143 Pan dw i mewn trafferthion ac mewn trybini,mae dy orchmynion di yn hyfrydwch pur i mi.
144 Mae dy reolau cyfiawn yn para am byth;rho'r gallu i mi eu deall, i mi gael byw.
145 Dw i'n gweiddi arnat ti o waelod calon!“Ateb fi, ARGLWYDD,er mwyn i mi gadw dy ddeddfau.”
146 Dw i'n gweiddi arnat ti, “Achub fi,er mwyn i mi gadw dy reolau.”