141 Er fy mod i'n cael fy mychanu a'm dirmygu,dw i ddim wedi diystyru dy orchmynion di.
142 Mae dy gyfiawnder di yn para am byth;Mae dy ddysgeidiaeth di yn wir.
143 Pan dw i mewn trafferthion ac mewn trybini,mae dy orchmynion di yn hyfrydwch pur i mi.
144 Mae dy reolau cyfiawn yn para am byth;rho'r gallu i mi eu deall, i mi gael byw.
145 Dw i'n gweiddi arnat ti o waelod calon!“Ateb fi, ARGLWYDD,er mwyn i mi gadw dy ddeddfau.”
146 Dw i'n gweiddi arnat ti, “Achub fi,er mwyn i mi gadw dy reolau.”
147 Dw i'n codi cyn iddi wawrio i alw am dy help!Dy eiriau di sy'n rhoi gobaith i mi!