148 Dw i'n dal yn effro cyn i wylfa'r nos ddechrau,ac yn myfyrio ar dy eiriau.
149 Gwranda arna i, yn unol â dy gariad ffyddlon;O ARGLWYDD, rho fywyd i mi, yn unol â dy gyfiawnder!
150 Mae'r rhai sydd am wneud drwg i mi yn dod yn nes!Maen nhw'n bell iawn o dy ddysgeidiaeth di.
151 Ond rwyt ti bob amser yn agos, ARGLWYDD,ac mae dy orchmynion di i gyd yn wir.
152 Dw i wedi dysgu ers talwmfod dy reolau di yn aros am byth.
153 Edrych fel dw i'n dioddef, ac achub fi!dw i ddim wedi diystyru dy ddysgeidiaeth di.
154 Dadlau fy achos a helpa fi!Cadw fi'n saff, fel rwyt wedi addo gwneud.