151 Ond rwyt ti bob amser yn agos, ARGLWYDD,ac mae dy orchmynion di i gyd yn wir.
152 Dw i wedi dysgu ers talwmfod dy reolau di yn aros am byth.
153 Edrych fel dw i'n dioddef, ac achub fi!dw i ddim wedi diystyru dy ddysgeidiaeth di.
154 Dadlau fy achos a helpa fi!Cadw fi'n saff, fel rwyt wedi addo gwneud.
155 Does gan y rhai drwg ddim gobaith cael eu hachub gen ti;dŷn nhw ddim yn ymroi i wneud beth rwyt ti eisiau.
156 Rwyt ti mor drugarog, O ARGLWYDD;adfywia fi yn unol â dy gyfiawnder!
157 Mae gen i lawer iawn o elynion yn fy erlid i;ond dw i ddim wedi gwyro oddi wrth dy ddeddfau di.