158 Mae gweld pobl heb ffydd yn codi pwys arna i,am eu bod nhw ddim yn cadw dy reolau di.
159 Dw i wrth fy modd hefo dy ofynion!O ARGLWYDD, cadw fi'n saff, fel rwyt wedi addo.
160 Mae popeth rwyt ti'n ddweud yn gwbl ddibynadwy;mae pob un o dy reolau cyfiawn yn para am byth.
161 Mae'r awdurdodau wedi fy erlid i ar gam!Ond mae dy eiriau di yn rhoi gwefr i mi.
162 Mae dy eiriau di yn fy ngwneud i mor hapus,fel rhywun sydd wedi dod o hyd i drysor gwerthfawr.
163 Dw i'n casáu ac yn ffieiddio diffyg ffydd;ond dw i wrth fy modd hefo dy ddysgeidiaeth di.
164 Dw i'n dy addoli di saith gwaith y dyddam dy fod ti'n dyfarnu'n gyfiawn.