16 Mae dy ddeddfau di yn rhoi'r pleser mwya i mi!Dw i ddim am anghofio beth rwyt ti'n ddweud.
17 Helpa dy was!Cadw fi'n fyw i mi allu gwneud beth rwyt ti'n ddweud.
18 Agor fy llygaid, i mi allu deally pethau rhyfeddol rwyt ti'n eu dysgu.
19 Dw i ddim ond ar y ddaear yma dros dro.Paid cuddio dy orchmynion oddi wrtho i.
20 Dw i'n ysu am gael gwybodbeth ydy dy ddyfarniad di.
21 Rwyt ti'n ceryddu pobl falch,ac yn melltithio'r rhai sy'n crwydro oddi wrth dy orchmynion di.
22 Wnei di symud yr holl wawdio a'r cam-drin i ffwrdd?Dw i'n cadw dy reolau di.