166 Dw i'n edrych ymlaen at gael fy achub gen ti, O ARGLWYDD!Dw i'n cadw dy orchmynion di;
167 dw i'n ufuddhau i dy ddeddfau diac yn eu caru nhw'n fawr.
168 Dw i'n ufuddhau i dy orchmynion a dy ddeddfau di.Ti'n gwybod yn iawn am bopeth dw i'n wneud.
169 Gwranda arna i'n pledio o dy flaen di, O ARGLWYDD;helpa fi i ddeall, fel rwyt ti'n addo gwneud.
170 Dw i'n cyflwyno beth dw i'n ofyn amdano i ti.Achub fi fel rwyt wedi addo.
171 Bydd moliant yn llifo oddi ar fy ngwefusau,am dy fod ti'n dysgu dy ddeddfau i mi.
172 Bydd fy nhafod yn canu am dy eiriau,am fod dy reolau di i gyd yn gyfiawn.