171 Bydd moliant yn llifo oddi ar fy ngwefusau,am dy fod ti'n dysgu dy ddeddfau i mi.
172 Bydd fy nhafod yn canu am dy eiriau,am fod dy reolau di i gyd yn gyfiawn.
173 Estyn dy law i'm helpu.Dw i wedi dewis dilyn dy orchmynion di.
174 Dw i'n dyheu i ti fy achub i, ARGLWYDD;Mae dy ddysgeidiaeth di yn hyfrydwch pur i mi.
175 Gad i mi fyw, i mi gael dy foli!gad i dy reolau di fy helpu i.
176 Dw i wedi crwydro fel dafad oedd ar goll.Tyrd i edrych amdana i!Dw i ddim wedi diystyru dy orchmynion di.