22 Wnei di symud yr holl wawdio a'r cam-drin i ffwrdd?Dw i'n cadw dy reolau di.
23 Er bod arweinwyr yn cynllwynio yn fy erbyn i,mae dy was yn astudio dy ddeddfau.
24 Mae dy ofynion di yn hyfrydwch pur i mi,ac yn rhoi arweiniad cyson i mi.
25 Dw i'n methu codi o'r llwch!Adfywia fi fel rwyt wedi addo!
26 Dyma fi'n dweud beth oedd yn digwydd, a dyma ti'n ateb.Dysga dy ddeddfau i mi.
27 Gad i mi ddeall sut mae byw yn ffyddlon i dy ofynion,a bydda i'n myfyrio ar y pethau rhyfeddol rwyt ti'n eu gwneud.
28 Mae tristwch yn fy lladd i!Cod fi ar fy nhraed fel gwnest ti addo!