27 Gad i mi ddeall sut mae byw yn ffyddlon i dy ofynion,a bydda i'n myfyrio ar y pethau rhyfeddol rwyt ti'n eu gwneud.
28 Mae tristwch yn fy lladd i!Cod fi ar fy nhraed fel gwnest ti addo!
29 Symud unrhyw dwyll sydd ynof fi;a rho dy ddysgeidiaeth i mi.
30 Dw i wedi dewis byw'n ffyddlon i ti;a chadw fy llygaid ar dy reolau di.
31 Dw i'n dal gafael yn dy orchmynion; ARGLWYDD, paid siomi fi!
32 Dw i wir eisiau byw'n ffyddlon i dy orchmynion;helpa fi i weld y darlun mawr.
33 O ARGLWYDD, dysga fi i fywfel mae dy gyfraith di'n dweud;a'i dilyn i'r diwedd.