31 Dw i'n dal gafael yn dy orchmynion; ARGLWYDD, paid siomi fi!
32 Dw i wir eisiau byw'n ffyddlon i dy orchmynion;helpa fi i weld y darlun mawr.
33 O ARGLWYDD, dysga fi i fywfel mae dy gyfraith di'n dweud;a'i dilyn i'r diwedd.
34 Helpa fi i ddeall, a bydda i'n cadw dy ddysgeidiaeth di;bydda i'n ymroi i wneud popeth mae'n ei ofyn.
35 Arwain fi i ddilyn llwybr dy orchmynion;dyna dw i eisiau ei wneud.
36 Gwna fi'n awyddus i gadw dy amodau diyn lle bod eisiau llwyddo'n faterol.
37 Cadw fi rhag edrych ar bethau diwerth!Gad i mi brofi bywyd wrth ddilyn dy ffyrdd di!