34 Helpa fi i ddeall, a bydda i'n cadw dy ddysgeidiaeth di;bydda i'n ymroi i wneud popeth mae'n ei ofyn.
35 Arwain fi i ddilyn llwybr dy orchmynion;dyna dw i eisiau ei wneud.
36 Gwna fi'n awyddus i gadw dy amodau diyn lle bod eisiau llwyddo'n faterol.
37 Cadw fi rhag edrych ar bethau diwerth!Gad i mi brofi bywyd wrth ddilyn dy ffyrdd di!
38 Gwna beth wnest ti ei addo i dy was,i ennyn parch ac addoliad ynof fi.
39 Cymer yr holl wawdio ofnadwy i ffwrdd,Mae dy ddedfryd di bob amser yn iawn.
40 Dw i'n dyheu am wneud beth rwyt ti'n ei ofyn;Rho fywyd newydd i mi drwy dy ffyddlondeb.