37 Cadw fi rhag edrych ar bethau diwerth!Gad i mi brofi bywyd wrth ddilyn dy ffyrdd di!
38 Gwna beth wnest ti ei addo i dy was,i ennyn parch ac addoliad ynof fi.
39 Cymer yr holl wawdio ofnadwy i ffwrdd,Mae dy ddedfryd di bob amser yn iawn.
40 Dw i'n dyheu am wneud beth rwyt ti'n ei ofyn;Rho fywyd newydd i mi drwy dy ffyddlondeb.
41 Gad i mi brofi dy gariad, O ARGLWYDD.Achub fi, fel rwyt wedi addo.
42 Wedyn bydda i'n gallu ateb y rhai sy'n fy enllibio,gan fy mod i'n credu beth rwyt ti'n ddweud.
43 Paid rhwystro fi rhag dweud beth sy'n wir,dw i wedi rhoi fy ngobaith yn dy ddyfarniad di.