42 Wedyn bydda i'n gallu ateb y rhai sy'n fy enllibio,gan fy mod i'n credu beth rwyt ti'n ddweud.
43 Paid rhwystro fi rhag dweud beth sy'n wir,dw i wedi rhoi fy ngobaith yn dy ddyfarniad di.
44 Wedyn bydda i'n ufudd i dy ddysgeidiaeth diam byth bythoedd!
45 Gad i mi gerdded yn rhyddam fy mod i wedi ymroi i wneud beth rwyt ti eisiau.
46 Bydda i'n dweud wrth frenhinoedd am dy ofynion.Fydd gen i ddim cywilydd.
47 Mae dy orchmynion yn rhoi'r pleser mwya i mi,dw i wir yn eu caru nhw!
48 Dw i'n cydnabod ac yn caru dy orchmynion,ac yn myfyrio ar dy ddeddfau.