43 Paid rhwystro fi rhag dweud beth sy'n wir,dw i wedi rhoi fy ngobaith yn dy ddyfarniad di.
44 Wedyn bydda i'n ufudd i dy ddysgeidiaeth diam byth bythoedd!
45 Gad i mi gerdded yn rhyddam fy mod i wedi ymroi i wneud beth rwyt ti eisiau.
46 Bydda i'n dweud wrth frenhinoedd am dy ofynion.Fydd gen i ddim cywilydd.
47 Mae dy orchmynion yn rhoi'r pleser mwya i mi,dw i wir yn eu caru nhw!
48 Dw i'n cydnabod ac yn caru dy orchmynion,ac yn myfyrio ar dy ddeddfau.
49 Cofia beth ddwedaist ti wrth dy was –dyna beth sydd wedi rhoi gobaith i mi.