51 Mae pobl falch wedi bod yn fy ngwawdio i'n greulon,ond dw i ddim wedi gwyro oddi wrth dy ddysgeidiaeth di.
52 Dw i'n cofio dy reolau ers talwm, O ARGLWYDD,ac mae hynny'n rhoi cysur i mi.
53 Dw i'n gwylltio'n lân wrth feddwl am y bobl ddrwg hynnysy'n gwrthod dy ddysgeidiaeth di.
54 Dy ddeddfau di fu'n destun i'm cânble bynnag dw i wedi byw!
55 Dw i'n cofio dy enw di yn y nos, O ARGLWYDD,ac yn gwneud beth rwyt ti'n ei ddysgu.
56 Dyna dw i wedi ei wneud bob amser –ufuddhau i dy ofynion di.
57 Ti, ARGLWYDD, ydy fy nghyfran i:Dw i'n addo gwneud fel rwyt ti'n dweud.