57 Ti, ARGLWYDD, ydy fy nghyfran i:Dw i'n addo gwneud fel rwyt ti'n dweud.
58 Dw i'n erfyn arnat ti o waelod calon:Dangos drugaredd ata i, fel rwyt wedi addo gwneud.
59 Dw i wedi bod yn meddwl am fy mywyd,ac wedi penderfynu troi yn ôl at dy ofynion di.
60 Heb unrhyw oedi, dw i'n brysioi wneud beth rwyt ti'n ei orchymyn.
61 Mae pobl ddrwg yn gosod trapiau i bob cyfeiriad,ond dw i ddim yn anghofio dy ddysgeidiaeth di.
62 Ganol nos dw i'n codi i ddiolcham dy fod ti'n dyfarnu'n gyfiawn.
63 Dw i'n ffrind i bawb sy'n dy ddilyn di,ac yn gwneud beth rwyt ti'n ei ofyn.