64 Mae dy gariad di, O ARGLWYDD, yn llenwi'r ddaear!Dysga dy ddeddfau i mi.
65 Rwyt wedi bod yn dda tuag ata ifel y gwnest ti addo, O ARGLWYDD.
66 Rho'r gallu i mi wybod beth sy'n iawn;dw i'n trystio dy orchmynion di.
67 Roeddwn i'n arfer mynd ar gyfeiliorn, ac roeddwn i'n dioddef,ond bellach dw i'n gwneud beth rwyt ti'n ddweud.
68 Rwyt ti'n dda, ac yn gwneud beth sy'n dda:dysga dy ddeddfau i mi.
69 Mae pobl falch wedi bod yn palu celwydd amdana i,ond dw i'n gwneud popeth alla i i gadw dy orchmynion.
70 Pobl cwbl ddideimlad ydyn nhw,ond dw i wrth fy modd gyda dy ddysgeidiaeth di.