67 Roeddwn i'n arfer mynd ar gyfeiliorn, ac roeddwn i'n dioddef,ond bellach dw i'n gwneud beth rwyt ti'n ddweud.
68 Rwyt ti'n dda, ac yn gwneud beth sy'n dda:dysga dy ddeddfau i mi.
69 Mae pobl falch wedi bod yn palu celwydd amdana i,ond dw i'n gwneud popeth alla i i gadw dy orchmynion.
70 Pobl cwbl ddideimlad ydyn nhw,ond dw i wrth fy modd gyda dy ddysgeidiaeth di.
71 Roedd yn beth da i mi orfod dioddef,er mwyn i mi ddysgu cadw dy ddeddfau.
72 Mae beth rwyt ti'n ei ddysgu yn fwy gwerthfawrna miloedd o ddarnau arian ac aur.
73 Ti sydd wedi fy ngwneud i a'm siapio i;helpa fi i ddeall er mwyn dysgu dy orchmynion di.