7 Dw i'n diolch i ti o waelod calonwrth ddysgu mor deg ydy dy reolau.
8 Dw i'n mynd i gadw dy ddeddfau;felly paid troi cefn arna i'n llwyr!
9 Sut mae llanc ifanc i ddal ati i fyw bywyd glân? –drwy wneud fel rwyt ti'n dweud.
10 Dw i wedi rhoi fy hun yn llwyr i ti;paid gadael i mi grwydro oddi wrth dy orchmynion di.
11 Dw i'n trysori dy neges di yn fy nghalon;er mwyn peidio pechu yn dy erbyn.
12 Rwyt ti'n fendigedig, O ARGLWYDD!Dysga dy ddeddfau i mi.
13 Dw i'n ailadrodd yn uchely rheolau rwyt ti wedi eu rhoi.