74 Bydd pawb sy'n dy barchu mor hapus wrth weld y newid ynof fi,am mai dy eiriau di sy'n rhoi gobaith i mi.
75 O ARGLWYDD, dw i'n gwybod fod beth rwyt ti'n benderfynu yn iawn;roeddet ti'n fy nisgyblu i am dy fod ti mor ffyddlon i mi.
76 Gad i dy gariad ffyddlon di roi cysur i mi,fel gwnest ti addo i dy was.
77 Mae dy ddysgeidiaeth di'n rhoi'r pleser mwya i mifelly gad i mi brofi dy dosturi, a chael byw.
78 Gad i'r rhai balch gael eu cywilyddio am wneud drwg i mi ar gam!Dw i'n mynd i astudio dy ofynion di.
79 Gwna i'r rhai sy'n dy barchu ac yn dilyn dy reolaufy nerbyn i yn ôl.
80 Gwna i mi roi fy hun yn llwyr i ddilyn dy ddeddfaufel bydd dim cywilydd arna i.