78 Gad i'r rhai balch gael eu cywilyddio am wneud drwg i mi ar gam!Dw i'n mynd i astudio dy ofynion di.
79 Gwna i'r rhai sy'n dy barchu ac yn dilyn dy reolaufy nerbyn i yn ôl.
80 Gwna i mi roi fy hun yn llwyr i ddilyn dy ddeddfaufel bydd dim cywilydd arna i.
81 Dw i'n dyheu i ti fy achub i!Dy eiriau di sy'n rhoi gobaith i mi!
82 Mae fy llygaid yn blino wrth ddisgwyl i ti wneud beth rwyt wedi ei addo:“Pryd wyt ti'n mynd i'm cysuro i?” meddwn i.
83 Dw i fel potel groen wedi crebachu gan fwg!Ond dw i ddim wedi diystyru dy ddeddfau.
84 Am faint mwy mae'n rhaid i mi ddisgwyl?Pryd wyt ti'n mynd i gosbi'r rhai sy'n fy erlid i?