85 Dydy'r bobl falch yna ddim yn cadw dy gyfraith di;maen nhw wedi cloddio tyllau i geisio fy nal i.
86 Dw i'n gallu dibynnu'n llwyr ar dy orchmynion di;mae'r bobl yma'n fy erlid i ar gam! Helpa fi!
87 Maen nhw bron â'm lladd i,ond dw i ddim wedi troi cefn ar dy orchmynion di.
88 Yn dy gariad ffyddlon, cadw fi'n fyw,a bydda i'n gwneud popeth rwyt ti'n ei ofyn.
89 Dw i'n gallu dibynnu ar dy eiriau di, ARGLWYDD;maen nhw'n ddiogel yn y nefoedd am byth.
90 Ti wedi bod yn ffyddlon ar hyd y cenedlaethau!Ti roddodd y ddaear yn ei lle, ac mae'n aros yno.
91 Mae popeth yn disgwyl dy arweiniad di,mae'r cwbl yn dy wasanaethu di.