87 Maen nhw bron â'm lladd i,ond dw i ddim wedi troi cefn ar dy orchmynion di.
88 Yn dy gariad ffyddlon, cadw fi'n fyw,a bydda i'n gwneud popeth rwyt ti'n ei ofyn.
89 Dw i'n gallu dibynnu ar dy eiriau di, ARGLWYDD;maen nhw'n ddiogel yn y nefoedd am byth.
90 Ti wedi bod yn ffyddlon ar hyd y cenedlaethau!Ti roddodd y ddaear yn ei lle, ac mae'n aros yno.
91 Mae popeth yn disgwyl dy arweiniad di,mae'r cwbl yn dy wasanaethu di.
92 Byddwn i wedi marw o iselderoni bai fy mod wrth fy modd gyda dy ddysgeidiaeth.
93 Wna i byth anghofio dy reolau di,rwyt ti wedi rhoi bywyd newydd i mi trwyddyn nhw.