9 Sut mae llanc ifanc i ddal ati i fyw bywyd glân? –drwy wneud fel rwyt ti'n dweud.
10 Dw i wedi rhoi fy hun yn llwyr i ti;paid gadael i mi grwydro oddi wrth dy orchmynion di.
11 Dw i'n trysori dy neges di yn fy nghalon;er mwyn peidio pechu yn dy erbyn.
12 Rwyt ti'n fendigedig, O ARGLWYDD!Dysga dy ddeddfau i mi.
13 Dw i'n ailadrodd yn uchely rheolau rwyt ti wedi eu rhoi.
14 Mae byw fel rwyt ti'n dweudyn rhoi mwy o lawenydd na'r cyfoeth mwya.
15 Dw i am fyfyrio ar dy ofynion,a chadw fy llygaid ar dy ffyrdd.