94 Ti sydd piau fi. Achub fi!Dw i wedi ymroi i wneud beth wyt ti eisiau.
95 Mae dynion drwg eisiau fy ninistrio,ond dw i'n myfyrio ar dy orchmynion.
96 Mae yna ben draw i bopeth arall,ond mae dy orchmynion di yn ddiderfyn!
97 O, dw i wrth fy modd hefo dy ddysgeidiaeth di!Dw i'n myfyrio ynddi drwy'r dydd.
98 Mae dy orchmynion di gyda mi bob amser;maen nhw'n fy ngwneud i'n gallach na'm gelynion;
99 Dw i wedi dod i ddeall mwy na'm hathrawon i gyd,am fy mod i'n myfyrio ar dy ddeddfau di.
100 Dw i wedi dod i ddeall yn well na'r rhai mewn oed,am fy mod i'n cadw dy ofynion di.