1 Ro'n i wrth fy modd pan ddwedon nhw wrtho i,“Gadewch i ni fynd i deml yr ARGLWYDD.”
2 Dyma ni yn sefyll y tu mewn i dy giatiau,O Jerwsalem!
3 Mae Jerwsalem yn ddinas wedi ei hadeiladu,i bobl ddod at ei gilydd ynddi.
4 Mae'r llwythau yn mynd ar bererindod iddi,ie, llwythau'r ARGLWYDD.Mae'n ddyletswydd ar bobl Israeli roi diolch i'r ARGLWYDD.
5 Dyma ble mae'r llysoedd barn yn eistedd,llysoedd barn llywodraeth Dafydd.