4 Ond rwyt ti'n barod i faddau,ac felly mae pobl yn dy addoli di.
5 Dw i'n troi at yr ARGLWYDD;dw i'n troi ato ac yn disgwyl yn llawn gobaith.Dw i'n trystio beth mae e'n ddweud.
6 Dw i'n dyheu i'r Meistr ddodfwy na'r gwylwyr yn disgwyl am y bore,ie, y gwylwyr am y bore.
7 O Israel, trystia'r ARGLWYDD!Mae cariad yr ARGLWYDD mor ffyddlon,ac mae e mor barod i'n gollwng ni'n rhydd!
8 Fe ydy'r un fydd yn rhyddhau Israelo ganlyniadau ei holl ddrygioni!