1 Dim ond ffŵl sy'n meddwl wrtho'i hun,“Dydy Duw ddim yn bodoli.”Mae pobl yn gwneud pob math o bethau ffiaidd;does neb yn gwneud daioni.
2 Mae'r ARGLWYDD yn edrych i lawro'r nefoedd ar y ddynoliaethi weld os oes unrhyw un call;unrhyw un sy'n ceisio Duw.
3 Ond mae pawb wedi troi cefn arno,ac yn gwbl lygredig.Does neb yn gwneud daioni –dim un!
4 Ydyn nhw wir mor dwp – yr holl rhai drwgsy'n llarpio fy mhobl fel taen nhw'n llowcio bwyd,a byth yn galw ar yr ARGLWYDD?
5 Byddan nhw'n dychryn am eu bywydau,am fod Duw yn gofalu am y rhai cyfiawn.