1 Dw i'n gweiddi'n uchel ar yr ARGLWYDD;dw i'n pledio ar i'r ARGLWYDD fy helpu.
2 Dw i'n tywallt y cwbl sy'n fy mhoeni o'i flaen,ac yn dweud wrtho am fy holl drafferthion.
3 Pan dw i wedi anobeithio'n llwyr,rwyt ti'n gwylio'r ffordd i mi.Maen nhw wedi cuddio maglar y llwybr o'm blaen i.
4 Dw i'n edrych i'r dde –ond does neb yn cymryd sylw ohono i.Mae dianc yn amhosib! –does neb yn poeni amdana i.