1 O ARGLWYDD, gwrando ar fy ngweddi.Gwranda arna i'n pledio am dy help di!Ti'n Dduw ffyddlon a chyfiawn, felly plîs ateb fi.
2 Paid rhoi dy was ar brawf,achos does neb yn ddieuog yn dy olwg di.
3 Mae'r gelyn wedi dod ar fy ôl i,ac wedi fy sathru i'r llawr.Mae wedi gwneud i mi eistedd yn y tywyllwchfel y rhai sydd wedi marw ers talwm.
4 Dw i'n anobeithio!Dw i wedi fy mharlysu gan ddychryn!