3 Mae'r gelyn wedi dod ar fy ôl i,ac wedi fy sathru i'r llawr.Mae wedi gwneud i mi eistedd yn y tywyllwchfel y rhai sydd wedi marw ers talwm.
4 Dw i'n anobeithio!Dw i wedi fy mharlysu gan ddychryn!
5 Ond wedyn dw i'n cofio am beth wnest ti yn y gorffennol,ac yn myfyrio ar y cwbl wnest ti ei gyflawni.
6 Dw i'n estyn fy nwylo allan atat ti.Dw i fel tir sych yn hiraethu am law! Saib
7 Brysia! Ateb fi, ARGLWYDD!Alla i ddim diodde dim mwy!Paid troi i ffwrdd oddi wrtho i,neu bydda i'n syrthio i bwll marwolaeth.
8 Gad i mi glywed am dy gariad ffyddlon di yn y bore,achos dw i'n dy drystio di.Gad i mi wybod pa ffordd i fynd –dw i'n dyheu amdanat ti!
9 Achub fi o afael y gelyn, O ARGLWYDD;dw i'n rhedeg atat ti am gysgod.