1 Mae mor dda canu mawl i Dduw!Mae'n beth hyfryd rhoi iddo'r mawl mae'n ei haeddu.
2 Mae'r ARGLWYDD yn ailadeiladu Jerwsalem,ac yn casglu pobl Israel sydd wedi bod yn alltudion.
3 Mae e'n iacháu y rhai sydd wedi torri eu calonnau,ac yn rhwymo eu briwiau.
4 Mae e wedi cyfri'r sêr i gyd,a rhoi enw i bob un ohonyn nhw.
5 Mae'n Meistr ni mor fawr, ac mor gryf!Mae ei ddeall yn ddi-ben-draw!