3 Mae e'n iacháu y rhai sydd wedi torri eu calonnau,ac yn rhwymo eu briwiau.
4 Mae e wedi cyfri'r sêr i gyd,a rhoi enw i bob un ohonyn nhw.
5 Mae'n Meistr ni mor fawr, ac mor gryf!Mae ei ddeall yn ddi-ben-draw!
6 Mae'r ARGLWYDD yn rhoi hyder i'r rhai sy'n cael eu gorthrymu,ond yn bwrw'r rhai drwg i'r llawr.
7 Canwch gân o fawl i'r ARGLWYDD,a chreu alaw i Dduw ar y delyn fach.
8 Mae'n gorchuddio'r awyr gyda chymylau,ac yn rhoi glaw i'r ddaear.Mae'n gwneud i laswellt dyfu ar y mynyddoedd,
9 yn rhoi bwyd i bob anifail gwyllt,ac i gywion y gigfran pan maen nhw'n galw.