9 yn rhoi bwyd i bob anifail gwyllt,ac i gywion y gigfran pan maen nhw'n galw.
10 Dydy cryfder ceffyl ddim yn creu argraff arno,a dydy cyflymder rhedwr ddim yn ei ryfeddu.
11 Y bobl sy'n ei barchu sy'n plesio'r ARGLWYDD;y rhai hynny sy'n rhoi eu gobaith yn ei gariad ffyddlon.
12 O Jerwsalem, canmol yr ARGLWYDD!O Seion, mola dy Dduw!
13 Mae e wedi gwneud barrau dy giatiau yn gryf,ac wedi bendithio dy blant o dy fewn.
14 Mae'n gwneud dy dir yn ddiogel,ac yn rhoi digonedd o'r ŷd gorau i ti.
15 Mae'n anfon ei orchymyn drwy'r ddaear,ac mae'n cael ei wneud ar unwaith.