1 Amddiffyn fi, O Dduw;dw i'n troi atat ti am loches.
2 Dywedais wrth yr ARGLWYDD,“Ti ydy fy Meistr i;mae fy lles i yn dibynnu arnat ti.”
3 Y bobl dduwiol yn y wlad ydy fy arwyr,dw i wrth fy modd gyda nhw.
4 Ond bydd y rhai sy'n dilyn duwiau eraillyn cael llwyth o drafferthion!Dw i eisiau dim i'w wneud â'u hoffrymau o waed.Dw i ddim am eu henwi nhw hyd yn oed!